Gawain Barnard

DIFLASRWYDD I’W LOSGI

Diflasrwydd sy’n gwneud i ni ei wneud o, hynny a’r her. Mae’r haul yn yn gwynnu y glaswellt nes mae o’n barod I’w losgi ac yna ni’n cynnau y tân, gwylio ac aros. Mae’r fflamau yn llyncu y tir ac wedyn mae nhw’n dod a ni’n rhedeg. Ni yn ein trowsusau byr a nhw yn eu lifrau, rhy lletchwith i redeg ond yn gyflym achos mae nhw’n ddynion a da ni yn chwerthin ac yn cwympo, baglu a rhowlio i ffwrdd o’r fflamau, yn ddiogel os na chawn ni ein dal, rhy ifanc i boeni am yr adar marw, y tir toredig a’r tirwedd tywyll du